Ar ein rhaglen Cymraeg ac Athroniaeth (BA), byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr or iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth ai diwylliant, ac yn ymgysylltu â chwestiynau athronyddol allweddol ar draws ystod eang o bynciau a thraddodiadau. Byddwch yn ennill lefel uchel o sgiliau mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithredu a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig syn berthnasol ir Gymru fodern. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd feddwl-agored a chydweithredol, gan gynnwys...
Ar ein rhaglen Cymraeg ac Athroniaeth (BA), byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr or iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth ai diwylliant, ac yn ymgysylltu â chwestiynau athronyddol allweddol ar draws ystod eang o bynciau a thraddodiadau. Byddwch yn ennill lefel uchel o sgiliau mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar, sgiliau allweddol mewn cydweithredu a meddwl yn feirniadol, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig syn berthnasol ir Gymru fodern. Byddwn yn eich cefnogi i ymwneud yn feirniadol ac yn greadigol â phroblemau anodd mewn ffordd feddwl-agored a chydweithredol, gan gynnwys ar bynciau sensitif a dadleuol.

Rydym yn croesawu’r rhai sydd wedi astudio’r Gymraeg naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith. Os ywr Gymraeg yn ail iaith i chi, byddwch yn cael modiwlau penodol yn y flwyddyn gyntaf ar ail flwyddyn i ymarfer a gwella eich sgiliau cyfathrebu ac iaith. Ar ôl hyn, mae myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dod at ei gilydd am y rhan fwyaf or ail flwyddyn, a phob modiwl blwyddyn olaf. Mae opsiynau modiwl yn eich galluogi i archwilio pynciau megis ysgrifennu Cymraeg hanesyddol a chyfoes, polisi iaith, a chyfieithu proffesiynol.

Mewn Athroniaeth, byddwch yn datblygu sylfaen gadarn mewn athroniaeth foesol, byddwch hefyd yn astudio epistemoleg, athroniaeth meddwl, ac athroniaeth wleidyddol, ac yn cael cyfle i astudio meysydd fel estheteg, athroniaeth ffeministaidd, a ffenomenoleg. Ym mlwyddyn olaf y rhaglen, gallwch arbenigo yn eich dewis faes astudio.

Mae llawer on modiwlau yn archwilion uniongyrchol wahanol ddefnyddiau iaith. Byddwch yn dod i werthfawrogiad dyfnach o oblygiadau meddwl athronyddol, gan roi cyswllt clir rhwng damcaniaethau au cymhwysiad i chi. Pwysleisir hyn ym mlwyddyn olaf y rhaglen, lle byddwch yn cymryd rhan mewn modiwl craidd i gymhwyso ymchwil athronyddol i ddatblygu polisïau neu strategaethau sydd âr nod o ddatrys problem foesegol neu gymdeithasol yn y byd go iawn.

Yn ystod y radd, cewch gyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn ddyddiol, i fagu eich hyder ach sgiliau proffesiynol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â thraethawd hir, lle byddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil ar bwnc och dewis yn ymwneud âr Gymraeg, ei diwylliant neu ei llenyddiaeth.

Byddwch yn graddio gydag ystod o sgiliau proffesiynol, gan gynnwys cydweithredu, cyfathrebu, a meddwl yn feirniadol. Byddwch yn ymwybodol or heriau moesegol, cymdeithasol ac ieithyddol syn wynebu cymdeithas a diwydiant cyfoes, a bydd gennych y syniadau ar hyder sydd eu hangen iw datrys. Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel broffesiynol yn hynod ddeniadol i gyflogwyr hefyd, gan olygu bod gennych gyfle unigryw i ddilyn gyrfa ddiddorol ac amrywiol lle gallwch ddylanwadu ar ddyfodol ieithyddol, diwylliannol, dinesig ac economaidd Cymru.

**Nodweddion Unigryw’r Rhaglen**
**Dilyn eich diddordebau:** Dewiswch o fodiwlau ar draws ystod o feysydd mewn llenyddiaeth ac iaith Gymraeg ac amrywiaeth o ddadleuon athronyddol hanesyddol a newydd.
**Meddwl dros eich hun:** Ymgysylltwch yn feirniadol ac yn greadigol â gwahanol fathau o destunau, data a chwestiynau anodd mewn ffordd annibynnol ac agored.
**Llywior dyfodol:** Cymhwyswch ymchwil athronyddol i ddatrys problemau cymdeithasol y byd go iawn neu ymgysylltu â chymunedau lleol am eich astudiaethau.
**Cymraeg yn y gweithle:** Magu eich hyder ach sgiliau ymarferol drwy ddefnyddior Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol ar brofiad gwaith.
**Cyfathrebu’n effeithiol:** Datblygwch sgiliau dwyieithog wrth lunio a chyflwyno eich syniadau ach dadleuon.
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
22/09/2025
Campus
Main Site - Cardiff
Application deadline
Provider Details
Codes/info
Course Code
QV55
Institution Code
C15
Points of Entry
Year 1
UCAS TariffNot Accepted International Baccalaureate Diploma Programme32 30 32-30 overall or 665-655 in 3 HL subjects. You must also have a Welsh language qualification equivalent to grade B at A-level. Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)DD-DM in a BTEC Diploma in Humanities or Social Science subjects and grade B in A-level Welsh First or Second Language. GCSE/National 4/National 5You must have or be working towards: - English language or Welsh language at GCSE grade C/4 or an equivalent (such as A-levels). If you require a Student visa, you must ensure your language qualification complies with UKVI requirements. Extended ProjectA For applicants taking the EPQ qualification, an A in the EPQ can be recognised to lower the entry requirements by a single grade. For example, an AAB offer would be “AAB from 3 A-levels or ABB from 3 A-levels and a grade A in the EPQ”. Please note that any subject specific requirements must be met. Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)The Welsh Baccalaureate Skills Challenge Certificate will be accepted in place of one A-level at the A-level grades specified, excluding any subject specific requirements. A levelA,B,B B,B,C Must include grade B in Welsh First or Second Language. T LevelAcceptance of T Levels for this programme will be considered on a case-by-case basis by the Academic School. Consideration will be given to the T Level grade/subject and grades/subjects achieved at GCSE/Level 2. |
Find more courses from Cardiff University with our undergraduate course search.
Region | Costs | Academic Year | Year |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,250 | 2025/26 | Year 1 |
EU, International | £23,700 | 2025/26 | Year 1 |