Addysg Gynradd (SAC) Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Course Overview - Addysg Gynradd (SAC) Bachelor of Arts (with Honours) - BA (Hons)
Mae'r radd gyffrous hon gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn eich hyfforddi fel athro cynradd wedi’ch cymhwyso’n arbennig i addysgu yng Nghymru ac mae'r un mor ddilys i'r rhai sydd eisiau dysgu yng ngweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt*.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o sut mae plant yn dysgu a'r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu i fod yn athro arloesol a chreadigol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc. Ym mhob blwyddyn o'r radd, fe'ch lleolir mewn ysgol arweiniol wahanol. Gan ychwanegu ehangder a dyfnder at eich profiad, mae hyn yn cynnwys...
Mae'r radd gyffrous hon gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) yn eich hyfforddi fel athro cynradd wedi’ch cymhwyso’n arbennig i addysgu yng Nghymru ac mae'r un mor ddilys i'r rhai sydd eisiau dysgu yng ngweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt*.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o sut mae plant yn dysgu a'r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu i fod yn athro arloesol a chreadigol a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc. Ym mhob blwyddyn o'r radd, fe'ch lleolir mewn ysgol arweiniol wahanol. Gan ychwanegu ehangder a dyfnder at eich profiad, mae hyn yn cynnwys ystod oedran a lleoliadau. Yn ystod y lleoliadau, byddwch yn cael eich cefnogi gan staff profiadol i ddysgu sut i gynllunio cynlluniau gwaith priodol ac ystyried strategaethau asesu ac adrodd.
Wedi’ch lleoli yma yng Ngwynedd, sir ag un o’r niferoedd mwyaf o siaradwyr Cymraeg, byddwch yn ymuno â phrifysgol ddwyieithog groesawgar. Byddwch yn cymryd rhan mewn lleoliadau Cymraeg eu hiaith gydag ysgolion ar draws y rhanbarth.
Mae gan Brifysgol Bangor enw da am addysg athrawon ers amser maith. Mae Partneriaeth CaBan yn sail i’ch addysg i ddod yn athro effeithiol. Mae’r bartneriaeth athrawon ddwyieithog, gynhwysol arloesol hon yn dibynnu ar ymarfer gorau a thystiolaeth i lywio eich datblygiad, addysgeg ac ymarfer.
Mae gan ein hysgolion partner fentoriaid sydd wedi'u hyfforddi'n dda a fydd yn cefnogi'ch cynnydd tuag at ddod yn athrawon rhagorol ac arloesol. O'ch mentoriaid dosbarth a phwnc i fentoriaid arweiniol y rhwydwaith a'n staff ein hunain, byddwch yn cael eich annog ar bob cam i ddatblygu sgiliau o'r radd flaenaf.
Mae’n gyfnod cyffrous i ddod yn athro yng Nghymru wrth i Addysg yng Nghymru gychwyn ar gyfnod newydd. Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi’i gynllunio i gefnogi pobl ifanc i ddatblygu safonau llythrennedd a rhifedd uwch, dod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, a bod yn ddinasyddion hyderus, galluog a thosturiol – yng nghyswllt Cymru a’r byd.
*Dylai'r rhai sy'n dymuno dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod yno ac yn drosglwyddadwy.
Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hon. Ar gyfer y cwrs cyfrwng Saesneg defnyddiwch god UCAS X131.
Course Information
1 option available
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
2027-09-20
Campus
Main Site
Application Details
Provider Details
Codes/info
Course Code
A48-B81
Institution Code
B06
Points of Entry
Year 1
Entry Requirements
A level
B,C,C
A,B,B
Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol. General Studies and Key Skills not accepted.
T Level
Derbynnir cymwysterau Lefel T fesul achos. T Levels in a relevant subject considered on a case-by-case basis.
UCAS Tariff
Scottish Higher
Isafswm o 5 Scottish Highers - efallai y bydd angen rhai graddau pwnc-benodol/Efallai y bydd angen Advanced Highers. Minimum of 5 Scottish Highers - some subject specific grades/Advanced Highers may be required.
Access to HE Diploma
Derbynnir. Accepted.
GCSE/National 4/National 5
TGAU: Gradd C/Gradd 4 yn yr arholiad TGAU mewn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg Iaith Gyntaf , Llenyddiaeth Gymraeg; Rhaid cael Gradd C/Gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd hefyd; TGAU Gradd C/Gradd 4 mewn Gwyddoniaeth.Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96- 128 pwynt tariff o Lefel A TAG neu gyfwerth.* GSCE: Grade C/Grade 4 in the GCSE examination in any of the following required: English Language, English Literature, Welsh First Language, Welsh Literature; Grade C/Grade 4 in the GCSE Examination in Mathematics or Mathematics-Numeracy must also be achieved; GCSE Grade C/Grade 4 in Science required.
International Baccalaureate Diploma Programme
Derbynnir. Accepted.
Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)
DMM
DDM
Byddwn hefyd yn ystyried cymwysterau BTEC eraill ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill. We will also consider other BTEC qualifications in conjunction with other level 3 qualifications.
Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (first teaching September 2015)
Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill. We will accept this qualification in conjunction with other level 3 qualifications.
Search Undergraduate Courses at Bangor University
Find more courses from Bangor University with our undergraduate course search.
Upcoming Open Days at Bangor University
16
Aug, 2026

Bangor University16 Aug 2026
Undergraduate Open Day
11
Oct, 2026

Bangor University11 Oct 2026
Undergraduate Open Day
24
Oct, 2026

Bangor University24 Oct 2026
Undergraduate Open Day
Fees and funding
| Region | Costs | Academic Year | Year | |
|---|---|---|---|---|
| England, Scotland, Northern Ireland, Wales, Republic of Ireland, Channel Islands | £9,790 | 2026/27 | Year 1 |
Order Free Prospectuses
The ideal way to read about detailed course information is with a university prospectus. Request a FREE prospectus and learn more about this course today.
























